Job Location : Cardiff, UK
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern benodi arweinydd profiadol ac uchelgeisiol i swydd Pennaeth Ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio’n agos gyda Phennaeth Gweithredol ysgolion cyfun Cymraeg Bro Edern a Glantaf gan adeiladu capasiti arwain a sicrhau twf a datblygiad pellach i gymuned ddysgu Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.
Mae’r swydd yn un dros dro i gyflenwi dros secondiad deiliad parhaol y swydd a bydd yn para tan [Awst 2027], neu pan fydd deiliad parhaol y swydd yn dychwelyd / ymddiswyddo, pa bynnag un sydd gyntaf.
Byddwch yn ymuno ag Ysgol Gyfun Gymraeg 11-18 lwyddiannus iawn sydd wedi ennill cydnabyddiaeth am ragoriaeth yn ei gwaith a hynny ers ei sefydlu yn Medi 2012. Dros y ddegawd diwethaf mae wedi arwain blaengareddau ac arloesedd mewn sawl maes gan ymestyn i gymunedau newydd yn ochr ddwyreiniol y ddinas ac adeiladu ymhellach ar lwyddiant addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.
Salary : -
Apply Now!